| Telerau Defnyddio |
|
|
|
MAE DEFNYDDIO’R WEFAN HON YN DANGOS EICH BOD YN DERBYN YR AMODAU CANLYNOL. OS NAD YDYCH YN CYTUNO Â NHW, NID OES GENNYCH GANIATÂD I DDEFNYDDIO’R SAFLE YMA.Nid oes hawl copïo, ailddefnyddio, llwytho i fyny, postio, trosglwyddo neu ailddosbarthu cynnwys y wefan hon neu unrhyw elfen ohoni, yn cynnwys testun heb gyfyngiad, graffeg, delweddau, neu unrhyw ddeunyddiau eraill, oni nodir yn wahanol, neu oni cheir cytundeb ysgrifenedig rhwng Cyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr a chi.
Mae hawlfraint ar y deunyddiau ar y safle hon a gallai defnydd anawdurdodedig o unrhyw ddeunydd sydd arni dorri deddfau hawlfraint.
Mae pob hawl, teitl a budd sy’n gysylltiedig â’r wefan hon yn eiddo i Gyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr. Diogelir y wefan gan y ddeddfwriaeth hawlfraint berthnasol.
Nid oes cyfrinachedd na hawl perchen ar unrhyw ddeunydd, gwybodaeth neu ohebiaeth arall a anfonwch neu a bostiwch i’r wefan hon a gallant gael eu hatgynhyrchu gan Gyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr i hyrwyddo’i achos, oni’ch bod yn rhoi gwybod i ni fel arall mewn ysgrifen.
Nid yw Cyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros ddeunyddiau ar y gwefannau hynny y mae’r safle yma’n cysylltu â nhw.
Nodweddion Rhwydweithio Cymdeithasol
Ni chewch: ddifrïo, aflonyddu neu fygwth eraill; Nid ydym yn caniatau datganiadau rhagfarnllyd, atgas neu sy’n tramgwyddo’n hiliol, nid ydym chwaith yn caniatau iaith anweddus; Nid ydym yn caniatau hyrwyddo unrhyw weithgaredd anghyfreithlon; Ni chewch bostio neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n torri a/neu’n tresmasu ar hawl trydydd parti neu unrhyw gyfraith; Ni allwch ddefnyddio’r bwrdd bwletin at ddibenion masnachol o unrhyw fath oni bo gennych ganiatâd ysgrifenedig gennym ni;
Cadwn yr hawl i dynnu / golygu cynnwys ein byrddau bwletin ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm.
Drwy lwytho deunyddiau i fyny i unrhyw rai o’r byrddau bwletin neu anfon unrhyw ddeunyddiau i ni, rydych yn awtomatig yn rhoi i ni (neu’n gwarantu fod perchennog y deunyddiau yn gwneud hynny) hawl a thrwydded bythol-barhaus, heb freindal, di-alw’n ôl, anghyfyngedig i ddefnyddio, atgynhyrchu, cyfaddasu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu, perfformio ac arddangos yn gyhoeddus, creu gweithiau deilliadol ohonynt a dosbarthu deunyddiau o’r fath neu gynnwys deunyddiau o’r fath mewn unrhyw ffurf, cyfrwng, neu dechnoleg y gwyddys amdano neu a ddatblygir yn ddiweddarach drwy’r bydysawd. Yn ychwanegol, rydych yn gwarantu fod pob “hawl foesol” fel y’u gelwir yn y deunyddiau hynny wedi eu hildio.
Nid yw Cyngor Addyg Grefyddol Cymru a Lloegr yn gyfrifol am, ac nid yw’n cynrychioli neu’n cefnogi cywirdeb neu ddibynadwyedd, unrhyw farn, cyngor, datganiad, argymhelliad neu wybodaeth arall sydd mewn unrhyw neges a osodir ar y byrddau bwletin, oni ei bod wedi’u gosod gan un o’n cynrychiolwyr. Os ydych chi’n dibynnu ar unrhyw farn, cyngor, datganiad, argymelliad neu wybodaeth arall o’r fath, rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun.
|

Telerau


