Cyffredinol
Pa wybodaeth ydym ni’n casglu? Gallwn ofyn i chi gofrestru’ch enw a’ch cyfeiriad ebost. Mae’n bosibl hefyd y byddwn am gasglu gwybodaeth gennych chi os ydych yn cwblhau ffurflenni arbennig ar ein safle neu os ydych yn cysylltu â ni ar y ffôn gyda sylw neu geisiadau penodol. I beth ydyn ni’n defnyddio gwybodaeth bersonol? Os ydych yn dewis cwblhau un o’n ffurflenni ar-lein, gallwn ddefnyddio’r wybodaeth bersonol a roesoch i ni at ddibenion ystadegol oni’ch bod yn dweud wrthym yn wahanol.
Negeseuon Ebost
Os ydych wedi rhoi’ch cyfeiriad ebost i ni, mae’n bosibl y byddwch yn derbyn negeseuon ebost achlysurol gan Gyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr ar faterion y credwn y byddant o ddiddordeb i chi.
Defnyddio cwcis
Mae rhai o’n tudalennau gwe yn defnyddio cwcis. Ystyr cwci yw llinyn o wybodaeth testun yn unig y mae Gwefan yn trosglwyddo i ffeil cwci’r porwr ar ddisg galed eich cyfrifiadur fel bod y Wefan yn gallu cofio pwy ydych chi. Cwci sesiwn yw cwci dros dro sydd ond yn aros yn ffeil cwci’ch porwr gwe nes i chi adael y safle. Nid oes data personol yn y cwci yma nes eich bod chi’n logio i mewn ac fe’i defnyddir i’n hysbysu ni eich bod yn defnyddio’r safle, ond heb logio i mewn. Os ydych yn logio i mewn i’n Gwefan rydym yn diweddaru’r sesiwn uchod gyda’ch data logio i mewn. Mae’r cwci yma yn dal wedi’i amgryptio ac mae’r safle’n defnyddio hwn ynghyd â chwci sesiwn ychwanegol i ddilysu’ch mynediad i rannau breintiedig o’r safle. Mae’r cwcis hyn yn aros yn rhai dros dro a byddant ond yn aros yn ffeil cwci’ch porwr nes i chi adael y safle. Os ydych yn logio allan o’r Wefan tynnir y data logio i mewn o’r cwci. Pan fo ymwelydd yn gofyn am dudalennau safle’r cyngor addysg grefyddol, mae’n gweinyddwyr safle yn logio enw parth y porwr, a’r cyfeiriad IP yn awtomatig. Cesglir y wybodaeth yma at ddibenion ystadegol yn unig ac ni chaiff ei defnyddio i adnabod unigolion.
Datgelu gwybodaeth bersonol
Gall Cyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr ddatgelu data personol i’r canlynol:
a) gweithwyr a darparwyr gwasanaeth trydydd parti sy’n cyflawni gwasanaethau ar ran y cyngor,
b) i bersonau fel y mynn y gyfraith neu orchymyn llys arall;
Rydym yn casglu ystadegau gwe yn awtomatig am eich ymweliad â’n safle. Defnyddir yr wybodaeth hon i’n helpu i ddilyn dewisiadau pori ar ein safle fel ein bod yn gallu gwella’n gwefan yn rheolaidd. Nid yw’r ystadegau hyn yn cynnwys data personol ac ni ellir eu holrhain yn ôl i unigolyn.
Wrth gytuno â’n telerau a’n hamodau, nid ydych wedi fforfedu’ch hawliau fel ag y’u rhagnodwyd o dan Ddeddf Diogelu Data y DU a byddwn yn cymryd pob gofal rhesymol i ddiogelu’ch preifatrwydd.
|