Diddordeb!

...
random_blobs4.gif
Facebook Twitter Digg Delicious Stumbleupon Google Bookmarks 
 
Sut? Argraffu Ebost

Mae’r rhesymau dros y diffyg hyder i ymdrin â materion dadleuol mewn AG yn amrywio o athro i athro, ac mae’r amgylchiadau’n amrywio o ysgol i ysgol.  Mae AtGyfnerthu yn gweithio gydag ysgolion unigol i helpu i adnabod anghenion a chynllunio ar eu cyfer.

Mae’r materion sy’n codi o eithafiaeth grefyddol a seiliedig ar gredoau eraill yn gofyn am ddulliau addysgu a dysgu penodol.  Drwy ddefnyddio medrau meddwl a dulliau sy’n annog cydweithio, mae myfyrwyr yn dysgu adnabod ac ystyried safbwyntiau ehangach.  Nod AtGyfnerthu yw helpu athrawon i feithrin trafodaeth, sgwrs a datblygu parch a dealltwriaeth.

Treialwyd y Rhaglen mewn nifer fechan o ysgolion, lle y cafodd dderbyniad da.  Dangoswyd fod y dull yma’n gweithio.  Mae AtGyfnerthu yn cynnig i bob ysgol sy’n cymryd rhan:

  • mentor sy’n gweithredu fel hwylusydd i gefnogi pob ysgol drwy’r broses.  Mae AtGyfnerthu yn rhywbeth a wneir gydag ysgolion ac athrawon, nid iddyn nhw.
  • portffolio o adnoddau a luniwyd yn arbennig i’w defnyddio gan
    athrawon i hybu eu gwybodaeth a’u hyder.  Nid y bwriad yw eu defnyddio yn y dosbarth ond, yn hytrach, i roi cyfeiriadau a gwybodaeth cyflym i athrawon heb lawer o amser yn sbâr.  Maent i gyd yn cynnwys ‘arwyddbyst’ i wybodaeth bellach ac adnoddau eraill (yn cynnwys adnoddau dosbarth mewn rhai achosion) i athrawon sydd am ddilyn y pwnc ymhellach.

Sut ydw i’n cymryd rhan?

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, anfonwch y ffurflen “Mae gen i ddiddordeb” ar y dde i’r dudalen hon i fynegi’ch diddordeb.  Byddwch yn cael cydnabyddiaeth a byddwn yn cysylltu â chi a rhoi manylion y cam nesaf yn y broses.