Cyfle i athrawon Addysg Grefyddol hunan-arfarnu, cynllunio a hyfforddi yw AtGyfnerthu. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar ysgolion a chaiff ei haddasu ar gyfer anghenion unigol. Ei phwrpas yw helpu i godi hyder athrawon wrth fynd i’r afael â materion dadleuol, yn enwedig pan ddefnyddir materion o’r fath yn aml i gyfiawnhau eithafiaeth a thrais.Mae eithafiaeth sy’n seiliedig ar gred yn codi pynciau cynhennus a sensitif iawn ac mae’n faes amserol sydd o ddiddordeb i bawb. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn ymwybodol fod rhai eithafwyr, drwy gydol hanes, wedi defnyddio dadleuon seiliedig ar gred i gyfiawnhau trais yn erbyn pobl maent yn anghytuno â nhw. Ond mae’n llai sicr a yw pobl ifanc yn gwybod am y cymhelliant am ymosodiadau o’r fath, neu am agwedd credinwyr prif ffrwd.
Defnyddiwch yr eitemau ar y ddewislen ar y chwith i fynd trwy’r tudalennau. Cyflwynir y rhaglen hon gan Gyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr, gyda chefnogaeth ADAPGOS (yng Nghymru) a’r DfE (yn Lloegr).Am ragor o wybodaeth am sut y trefnir AtGyfnerthu, ewch i wefan y Cyngor Addysg Grefyddol. |

Beth yw AtGyfnerthu?
